Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 29 Mehefin 2017
Amser: 09.33 -
12.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4227
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Dr Clive Grace, PPIW Daniel Bristow, PPIW Bethan Jones, Rhentu Doeth Cymru Kerry Price, Cymwysterau Cymru Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Alison Standfast, Cymwysterau Cymru Suzy Davies AC, Comisiynydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Gemma Gifford (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid; a David Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Clive Grace, UK Research and Consultancy Services Ltd; a Dan Bristow, Dirprwy Gyfarwyddwr, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru; Kerry Price, Pennaeth Cyllid Cymwysterau Cymru; ac Alison Standfast, Cyfarwyddwr Gweithredol – Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cymwysterau Cymru.
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Jones, Rheolwr Gweithredol Rhentu Doeth Cymru.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
10.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
11.1 Nododd y Pwyllgor fod ei daith i'r Alban wedi bod yn gynhyrchiol, gan nodi pa mor ddefnyddiol y bu'r sesiynau a gynhaliwyd.